Summit Centre

CANOLFAN SUMMIT

Mae Canolfan Summit wedi’i lleoli’n dwt mewn cwm coediog yn Ne Cymru yng nghanol afonydd a mynyddoedd. I ategu ei lleoliad godidog mae’r safle bendigedig sydd newydd ei ailddatblygu. Roedd sawl defnydd blaenorol i’r hen lofa cyn i Rock UK gymryd yr awenau drosto yn 2010. Ers hynny mae prosiect £4 miliwn wedi ei drawsnewid yn lleoliad perffaith i ddianc i gefn gwlad Cymru. Mae ei leoliad gwledig unigryw yn rhoi lle i chi adfyfyrio a gwerthfawrogi’r awyrgylch hardd tra’ch bod yn ymgymryd â gweithgareddau anturus.

LLEOLIAD GWYCH

Mae ein safle anghysbell hardd 20 munud yn unig o gyffordd 32 o’r M4, 20 munud o Fannau Brycheiniog, 25 munud o Gaerdydd ac awr o’r arfordir. Mae hyn yn golygu ein bod mewn safle perffaith ar gyfer amrywiol fathau o egwyliau preswyl. Mae modd defnyddio cysylltiadau bws a thrên hefyd i’n cyrraedd ni os bydd angen.

CYFLEUSTERAU

• Llety preswyl 100 gwely ‘en
suite’ o’r radd flaenaf
• 3 uned (44 gwely, 40 gwely,
18 gwely)
• Cwrs rhaffau uchel 8.5m
• System ogofa wedi’i
hadeiladu at y diben gyda
rhaeadr
• Canolfan ddringo dan do 18m o uchder
• Maes chwarae pob tywydd
• 3 ystafell fawr ar gyfer
digwyddiadau a chynadleddau
• Caffi ar wahân

A girl on the 18m climbing wall at Summit Centre, South Wales

Dringo

Mae gennym rai o’r waliau dringo dan do uchaf yn Ne Cymru, gan gyrraedd 18m gyda bargod sylweddol. Mae oddeutu 120 o lwybrau sy’n cael eu hailosod yn rheolaidd i’ch cadw ar flaenau eich traed ac mae belai awtomatig ar gael hefyd. Gallwch hefyd herio’ch hun a gwella’ch techneg ar ein meini mawr sy’n addas i bob gallu

Amseroedd Agor y Wal Ddringo

• Dydd Llun i ddydd Gwener:    10am – 10pm (Noder:      Rhwng 10am a 2pm –    argaeledd cyfyngedig ar gyfer dringo dan arweiniad)
• Penwythnosau a gwyliau banc : 10am – 6pm

Grwpiau

Rydyn ni’n croesawu grwpiau i ddod i ddringo yng Nghanolfan Summit a hynny naill ai dan oruchwyliaeth eich hyfforddwyr cymwys eich hunain neu gallwn ddarparu hyfforddwr i chi. Rydyn ni hefyd yn rhedeg amrywiol glybiau i blant, dringo NICAS a chlybiau dringo perfformiad yn ogystal â sesiynau blasu, cyrsiau dysgu dringo a chyrsiau dysgu arwain. Am brisiau, argaeledd ac unrhyw wybodaeth arall ffoniwch 01443 710 090 neu e-bostio summit@rockuk.org.uk.

Cwrs Rhaffau Uchel Antur Awyr

Cwrs rhaffau uchel o fath newydd a chyffrous – cewch fynd ar daith o amgylch cerrig llamu, rhwydi cargo, logiau siglo a phont Burma – a hynny i gyd 8.5 metr uwchben lefel y ddaear!

Amseroedd Agor

• Sadyrnau (o ddechrau mis Mawrth i ddiwedd mis Hydref): 10am – 6pm (mynediad olaf 5pm)
• Gwyliau Ysgol (ac eithrio’r Nadolig) : Dydd Llun i ddydd Gwener 10am – 6pm (mynediad olaf 5pm)
• Gellir archebu ar gyfer grwpiau y tu allan i’r amseroedd hyn (yn dibynnu ar argaeledd) felly cysylltwch â ni am fanylion
• £8 yn unig y person am 2 dro o amgylch y cwrs

Gweithgareddau Gwyliau Ysgol

Mae rhaglen wych o weithgareddau anturus ar gael gennym bob hanner tymor ac yn ystod gwyliau’r Pasg a’r Haf felly mae bob amser rhywbeth i’w wneud pan nad oes rhaid mynd i’r ysgol.
Boed yn sesiynau blasu neu’n gyrsiau, yn saethyddiaeth neu’n Antur Awyr, mae rhywbeth gennym i bawb! Maen nhw’n grêt i blant ac oedolion fel ei gilydd felly archebwch eich lle i roi cynnig ar un o’n gweithgareddau gwych!! Am brisiau, argaeledd ac i archebu’ch lle ffoniwch 01443 710 090 neu e-bostio summit@rockuk.org.uk

self belief

LLETY

Yn newydd sbon yn 2018, mae Canolfan Summit yn cynnig llety preswyl gyda 100 gwely a darpariaeth arlwyo gyflawn. Yn dibynnu ar faint eich grŵp, gall hyn fod fel un uned fawr, neu
wedi’i rhannu’n dair uned hunangynhaliol gyfan gwbl ar wahân. Mae ein llety sydd ar arddull byncdy yn cynnig cyfleusterau cynnes ac ymlaciol, sy’n berffaith ar ddiwedd diwrnod yn llawn gweithgareddau yn yr awyr agored. Yn rhan o’r llety mae ystafelloedd digwyddiadau o faint ystafelloedd dosbarth sy’n gallu bod yn lle gwych dan do i’ch grŵp gyfarfod a hamddena. Mae Canolfan Summit hefyd yn cynnig ardal neilltuedig fawr yn yr awyr agored at ddefnydd grwpiau preswyl hefyd.

GWEITHGAREDDAU

Yng Nghanolfan Summit rydyn ni’n cynnig 23 o weithgareddau dan gyfarwyddyd hyfforddwr, o ogofa i ganŵio, a dringo i adeiladu rafftiau. Bydd ein hyfforddwyr sydd wedi’u cymhwyso’n llawn yn teilwra pob sesiwn yn ôl oedran a phrofiad eich grŵp. Pa bynnag weithgareddau y byddwch yn eu dewis, byddwn yn tywys eich grŵp drwy’r hanfodion sylfaenol i roi gwir flas i chi o’r antur tra’n addysgu gwersi pwysig ar gyfer bywyd, fel sgiliau arwain, ymwybyddiaeth amgylcheddol, cyfrifoldeb personol a gwaith tîm. Cewch chi ddewis o blith ystod eang o weithgareddau a fydd yn sicrhau bod pob aelod o’ch grŵp yn gallu dod o hyd i rywbeth a fydd o fwynhad iddyn nhw ac y gallan nhw ragori ynddo. Byddwn ni bob amser yn gweithio gyda chi i sicrhau y caiff eich grŵp y gorau o’ch egwyl breswyl.

 

 

  • ABSEILIO
  • ANTUR AWYR
  • SAETHYDDIAETH
  • MEINI MAWR
  • COEDWRIAETH
  • TÂN GWERSYLL
  • CANŴIO
  • TAITH GANŴIO /AFON
    ODDI AR Y SAFLE

Gweithgareddau

 

  • GEOGELCIO
  • CERDDED CEUNENTYDD ODDI AR Y SAFLE
  • ECORYFELWYR
  • DRINGO ODDI AR Y SAFLE
  • DRINGO (DAN DO)
  • OGOFA ODDI AR Y SAFLE
  • OGOFA
  • CAIACIO

 

 

  • CERDDED MYNYDDOEDD
  • HEICIO GYDA’R NOS
  • YMGYRCH EGGBURT
  • CYFEIRIADU
  • RAFFTIO
  • SESIYNAU SBOTLAMP
  • ADEILADU TIMAU

ODDI AR Y SAFLE

Mae ein lleoliad gwledig godidog yn golygu ein bod yn ddigon ffodus i allu cynnig llu o weithgareddau oddi ar y safle. Mae’r rhain yn cynnwys dringo ar greigiau lleol, cerdded ceunentydd drwy raeadrau go iawn, ogofa a chanŵio drwy ardal De Cymru. Mae hyn yn caniatáu i grwpiau gael profiad o natur o lygad y ffynnon a chael ymdeimlad gwirioneddol o antur a chyffro.

DYSGU Y TU ALLAN I’R YSTAFELL DDOSBARTH

Mae Canolfan Summit wedi’i hachredu ar gyfer Dysgu y Tu Allan i’r Ystafell Ddosbarth (LOtC). Rydyn ni’n gweld o lygad y ffynnon y gwerth a’r effaith a ddaw i blant yn sgil dysgu yn yr awyr agored ac felly rydyn ni’n llwyr gefnogi dibenion LOtC.

DIOGELWCH

Rydym yn cymryd diogelwch eich plant o ddifrif mawr. Mae Canolfan Summit wedi’I thrwyddedu gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA) a chaiff ei harolygu’n rheolaidd yn rhan o’n rhaglen archwilio iechyd a diogelwch fewnol. Mae ein hyfforddwyr wedi’u hyfforddi’n llawn ac mae gan bob aelod o staff wiriad GDG.

School children doing the man-made caving activity at Summit Centre, adventure centre, South Wales

BETH SY’N EIN GWNEUD NI’N WAHANOL?

Yng Nghanolfan Summit rydyn ni’n canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth i bob plentyn sy’n dod i aros gyda ni. Yn hytrach na chyfrif nifer y bobl sy’n dod drwy’r drws, ein nod yw darparu egwyliau gweithgareddau preswyl o ansawdd ac atgofion sy’n para am oes. Rydyn ni’n buddsoddi’n helaeth yn ein hyfforddwyr fel eu bod nhw’n gallu buddsoddi yn eich plant chi hefyd. Mae ein hyfforddwyr gyda ni drwy gydol y flwyddyn ac felly’n cyfleu ein gwerthoedd drwy bob sesiwn unigol ac mae pob un plentyn o bwys iddyn nhw.

CYNLLUN BWRSARI

Mae’r ffrindiau sy’n cael eu gwneud, y rhwystrau sy’n cael eu goresgyn a’r ofnau sy’n cael eu trechu yn ystod ymweliad gweithgareddau preswyl yn amhrisiadwy. Rydyn ni’n deall hynny, felly rydyn ni am i bob plentyn allu elwa ar y profiadau hyn. Rydyn ni’n gwybod nad yw hyn bob amser yn bosibl yn ariannol felly rydyn ni wedi cyflwyno cronfa fwrsari. Bydd hyn yn helpu osgoi unrhyw grwpiau rhag gorfod hepgor unrhyw blentyn. Nid oes modd rhoi pris ar yr hyder a’r cydlyniad mae grŵp yn eu datblygu drwy fod i ffwrdd gyda’i gilydd a bydd ein cronfa fwrsari yn helpu sicrhau bod hyn yn digwydd.

DEWCH I WELD DROS EICH HUNAN

Os nad ydych chi erioed wedi bod i Ganolfan Summit, neu ei gweld ers y gwaith adnewyddu, bydden ni’n argymell yn gryf eich bod yn dod i weld y safle. Byddai aelod o’n tîm ar ben ei ddigon i gael eich tywys o amgylch y safle ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’n lleoliad anghredadwy ac mae ymweld ymlaen llaw yn sicr o dawelu unrhyw bryderon neu ymholiadau ynghylch trefnu eich egwyl breswyl eich hun. Gofynnir i chi ffonio ymlaen llaw i drefnu eich ymweliad. Mae Rock UK yn elusen Gristnogol sy’n darparu antur awyr agored ers 1922. Yn ogystal â Chanolfan Summit mae gennyn ni ganolfannau yn Swydd Northampton, Caint ac Ardal Ffiniau’r Alban.